Amgueddfa Treftadaeth Swtan

ADDYSG

Cyflwyniad

Mae Swtan yn croesawu ymweliadau gan Ysgolion, ac yn gallu cynnig profiadau a gweithgareddau ar gyfer gwahanol oedrannau - Meithrin, Cyfnod Sylfaen, CA1, CA2 a CA3. Mae’r plant yn cael ymweld â’r Bwthyn tô gwellt, y cytiau amrywiol, yr ardd (a’r tŷ bach!) ac mae Ystafell Ddosbarth (Ysgubor Goch) amlbwrpas ar gael sy’n cynnig lle sych a chynnes ar gyfer ymgynnull i gael gwersi a gweithgareddau - ac mae’n le delfrydol i fwyta pecynnau bwyd amser cinio. Mae nifer o fyrddau picnic ar gael o gwmpas y bwthyn.

Ymweliadau

Yn ystod ymweliadau ysgolion, mae’r plant yn cael profi’r ffordd o fyw yng nghefn gwlad Cymru yn ystod Oes Fictoria – o gwmpas y flwyddyn 1900.

Bydd cyfle i:

  • Ymweld â’r ystafelloedd oddi mewn i’r Bwthyn tô gwellt
  • Ymweld â’r gwahanol arddangosfeydd – yn y Sgubor Goch, Y Cwt Offer a’r Ardd
  • Eistedd o amgylch y tân – a dysgu am goginio ar y tân agored.
  • Rhannu profiadau Diwrnod Golchi gyda’r twb, doli bren a mangl.
  • Gweld a phrofi hen deganau
  • Gwisgo dillad Fictoraidd
  • Dysgu am grefft a thraddodiadau Cefn Gwlad Cymru
  • Gafael mewn arteffactau Fictoraidd
  • Gwneud gwahanol weithgareddau celf

Darperir gwasanaeth Addysg lawn, gydag arweiniad gan athrawes brofiadol.

Mae Pecyn gwybodaeth i athrawon – gyda thaflenni gwaith ar gyfer y plant.

Nadolig yn Swtan

Bydd Swtan ar agor i Ysgolion am bythefnos cyn y Nadolig – gyda chyfle i brofi naws Nadolig Fictoraidd. Bydd addurniadau traddodiadol yn y Bwthyn, a chyfle i wneud gwaith celf yn y Sgubor Goch.

Bydd cyfle i ddathlu’r Nadolig yn null blwyddyn 1900 a bydd nifer o weithgareddau addas ar gyfer pob oedran.

Prisiau

Codir tâl o £1 y disgybl

Amseroedd Agor i Ysgolion

Mae’r Bwthyn ar agor i Ysgolion trwy apwyntiad yn unig.

Dylid cysylltu gyda :

Catherine Jones (Swyddog Cyswllt Ysgolion) ysgolion@swtan.cymru

Cysylltwch â ni

Ebost: ymholiadau@swtan.cymru

Facebook Twitter

Hawlfraint © 2023 Amgueddfa Werin Swtan. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd