Amgueddfa Treftadaeth Swtan

SYR KYFFIN WILLIAMS

Ganwyd John Kyffin Williams ar y 9fed o Fai 1918 ger Llangefni. Fe dreuliodd ei flynyddoedd cynnar i ffwrdd o Fôn wedi i’w dad ei benodi’n Reolwr Banc yn y Waen. Bu’r teulu’n byw am gyfnod byr ym Miwmares, ac yna ym Mhentrefoelas, Llŷn. Mynychodd Ysgol Trearddur ar Ynys Môn, ac yna Ysgol Amwythig.

Yn ystod 1935-36 gwnaeth ei erthyglau gyda chwmni asiantaeth tir ym Mhwllheli.

Yn 1937 fe ymunodd â’r 6ed Bataliwn y Ffisilwyr Cymreig Brenhinol (Y Fyddin Diriogaethol) a’i gomisiynu’n Ail Lefftenant gan wasanaethu yng Ngogledd Iwerddon a Wrecsam. Beth bynnag, yn 1941, oherwydd epilepsy, bu iddo ei ryddhau o’r fyddin.

Fel canlyniad, yn 1941, astudiodd yn Ysgol Gelf Gain y Slade, ysgol a symudwyd i Rydychen yn ystod cyfnod y rhyfel. Yn 1944 fe’i penodwyd yn Uwch athro celf yn Ysgol Highgate, Llundain. Dychwelodd yn rheolaidd i Ogledd Cymru i beintio’r mynyddoedd, y ffermydd a’r bobl.

Yn 1974, gadawodd ei swydd dysgu a dychwelodd i Fôn i fyw ac i beintio’n llawn amser. Am weddill ei fywyd bu’n byw a pheintio yn ei gartref sef Min-y-Don, Pwllfanoglon ar y Fenai.

Arddangosodd ei waith gyntaf mewn oriel yn Llundain yn 1948, ac wedi hynny bu’n arddangos yn rheolaidd mewn sawl oriel ar draws y wlad.

Roedd Kyffin Williams yn aelod o’r Academi Frenhinol, a derbyniodd ei OBE yn 1982. Fe’i gwnaed yn KBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 1999.

Bu’n gefnogwr brwd o Oriel Ynys Môn o’r cychwyn, gan adael rhodd o gannoedd o’i beintiadau er budd trigolion yr Ynys ac ymwelwyr i’r fro. Maent yn cofnodi pethau sy’n gyfarwydd i ni ond hefyd cawn hen ddelweddau pwysig o’r Ynys sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn.

Bu farw Sir Kyffin ar y 1af o Fedi 2006, ac fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys y Santes Fair, Llanfair-yng-Nghornwy, lle roedd ei hen-daid wedi gweithio fel Rheithor yn ystod y bedwaredd ganrif a’r bymtheg. Yn ystod ei fywyd enillodd barch fel un o artistiaid gorau Cymru.

Y PRINT LITHOGRAFF A’R MEGIN

Cyflwynwyd y Print a’r Fegin i Gyfeillion Swtan gan ein noddwr - Syr Kyffin Williams.

Y Print : Hen fam gu Syr Kyffin a gynlluniodd y print gwreiddiol. Gwnaed printiadau ohono a’u gwerthu i godi arian ar gyfer gosod badau achub ar lannau Ynys Môn a Gogledd Cymru. Rhoddwyd y cyntaf yng Nghemlyn.

Y Fegin : Mae’r llythrennau ar y Fegin yn trosi i ddweud y gosodwyd y teils yng nghanol teml yn Lucknow ar adeg Gwrthryfel yn India.

Cysylltwch â ni

Ebost: ymholiadau@swtan.cymru

Facebook Twitter

Hawlfraint © 2023 Amgueddfa Werin Swtan. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd