Amgueddfa Treftadaeth Swtan

HANES Y BWTHYN A PHORTH SWTAN

Yn ôl cofnodion, fe elwid yr ardal hon yn “SWTTAN” yn ystod teyrnasiaeth Harri VIII, ac am ganrifoedd cyn hynny yn ôl pob tebyg. Oherwydd ei lleoliad, mae’n debygol y bu pobl yn byw yma ers oes Neolithig. Yn sicr, fe fu adeilad ar y safle hwn ers 1678 pan soniwyd amdano mewn indentur. Yn wreiddiol, fe godwyd yr adeilad fel y mae heddiw yn un bwthyn, tua chanol i ddiwedd y 18fed ganrif yn ôl pob tebyg, gydag ychwanegiadau a newidiadau yn y 19eg a’r 20fed ganrif.

Mae Swtan yn nodweddiadol o adeiladau gwerinol ledled ardaloedd Celtaidd yn Ynysoedd Prydeinig. Cartrefi i’r dosbarthiadau gweithiol tlawd oedd y bythynnod hyn ym Môn, roedd tyddynnod croglofft o’r fath yn niferus. Yn wir, dyma’r egwyddor sylfaenol oedd yn sail i ddeiliadaeth tir hynafol ledled Cymru wledig. Wyth erw o dir fyddai gan Swtan yn wreiddiol. Roedd ‘erw’ tua thri chwarter acer. Dros gyfnod o dri chan mlynedd fe amrywiodd nifer o aceri oedd gan Swtan o rhwng 3 i 7. A hwnnw’n dechrau ei oes fel hofel syml, fe uwchraddiwyd Swtan dros y blynyddoedd i’w faint presennol, sy’n anarferol o hir am y math hwn o dŷ. Fe ychwanegwyd yr adeiladau allanol fel y daeth y teulu’n fwy cefnog. Mae’r cerrig sydd yn rhedeg i fyny’r brif simnai wedi cael eu naddu gan saer maen ac maent yn dangos y bu hwn yn strwythur sylweddol o tua chanol y 18fed ganrif.

Preswylydd cyntaf Swtan, a gofnodwyd yn indentur 1678, oedd Hugh Lewis fu’n byw yno gyda’i wraig. Ers yr adeg honno, fe fu’r bwthyn yn eiddo i salw teulu adnabyddus, gan gynnwys y teulu Meyrick o Fodorgan, y teulu Thomas ac yn ddiweddarach, Ystâd Tregarnedd, oedd piau nifer o eiddo yn ardal Porth Swtan. Yna yn Swtan buom yn ffodus iawn o gael unigolyn olaf i’w eni yn y bwthyn, sef Mr Gwilym Jones, yn drysorydd Cyfeillion Swtan am sawl blwyddyn. Fe allwn olrhain ei deulu yn ôl i 1771.

Roedd Owen (tad Gwilym) yn ffermio tua 3 acer o dir, gyda buwch a llo, mochyn ac ychydig o ieir. Byddai hefyd yn trin yr ardd ac yn tyfu tatw, pys, ffa ac yn y blaen. Roedd ganddo gwch bob amser ac ar ôl priodi, fe roddwyd enw ei wraig - Blanche - ar y cwch. Byddai’n pysgota cimychiaid ac yn eu hanfon i farchnadoedd Lerpwl, Manceinion a’r cyffelyb gyda thrên o orsaf Y Fali, er mwyn ennill ychydig rhagor o arian tuag at fyw. Fodd bynnag, pan agorwyd bwyty "Lobster Pot" ym 1946, cafwyd marchnad llawer nes iddynt, a fei’i gwerthwyd i’r bwyty hwnnw am hanner coron y pwys.

Mae llawer o bobl hŷn yr ardal yn cofio Owen a’i gwch yn dda – a hynny am reswm arbennig; byddai bob amser yn rhwyfo ar ei sefyll, gan wynebu’r ffordd ‘roedd yn mynd.

Cysylltwch â ni

Ebost: ymholiadau@swtan.cymru

Facebook Twitter

Hawlfraint © 2023 Amgueddfa Werin Swtan. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd