Prynwyd y tir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel rhan o’u prosiect llwybr arfordirol.
Bu diddordeb yn lleol er mwyn adfer Swtan.
Cofrestrwyd Swtan fel cwmni yn Nhŷ’r Cwmnïau ym 1998, gyda chefnogaeth gan Fenter Môn a Chanolfan Cydweithredol; cafwyd mynediad i Raglen Datblygu Wledig yr Undeb Ewropeaidd er mwyn adfer y bwthyn a’i hadeiladau.
Yn 2010 cofrestrwyd Cyfeillion Swtan fel elusen (rhif gofrestr 1138119).
Datganiad Cenhadaeth:
Adfer a chadw'r Swtan er budd y cyhoedd a’i agor fel amgueddfa treftadaeth ar gyfer addysg.
Wedi’r adferiad llogwyd y bwthyn i Gyfeillion Swtan, gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, am 20 mlynedd.
Gwelwyd y bwthyn fel rhan fawr o atyniadau hanesyddol Môn, ac yn adnodd amhrisiadwy gan Ysgolion lleol. Gwelir hefyd yn lleoliad lle cynigir gwaith rhan amser i bobl leol.
Mae’r cyfarwyddwyr, sy’n wirfoddolwyr, yn rhedeg modd i ymaelodi er mwyn cefnogi’r bwthyn, ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau er mwyn codi arian i barhau’r gwaith.
Mae’r gwaith cariadus gan y cyfarwyddwyr yn eu gofal o’r bwthyn yn cael ei werthfawrogi gan bawb sy’n ymweld.
Petai unrhyw gyda’r amser i wirfoddoli, neu sgiliau i gefnogi’n gwaith rydym wastad yn barod i groesawu aelodau newydd i’n teulu ni yma’n Swtan.
Hawlfraint © 2023 Amgueddfa Werin Swtan. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd