Mae’n annhebygol y byddai gardd berlysiau fel hyn yn Swtan ar ddechrau’r ganrif 1900.
Byddai’r bobl oedd yn byw yma wedi tyfu ychydig o berlysiau a llysiau yn eu gardd gefn, a byddent wedi casglu’r gweddill o’r gwrychoedd a’r cloddiau.
Dyluniwyd yr ardd i arddangos y perlyfiau a’u defnydd traddodiadol.
Mae’r cysyniad gwreiddiol a’r cynnal a chadw yn brosiect cymunedol gan Sefydliad y Merched yn lleol, yn Rhydwyn ac fe’i crëwyd mewn partneriaeth â Chyfeillion Swtan, Menter Môn a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Wrth i’r tymor barhau, a’r perlysiau aeddfedu ychwanegwn luniau i ddangos ein gardd yn ei holl ogoniant.
Tyfir sawl berlys yn yr ardd ar gyfer meddyginiaethau, coginio a’u arogli a lliwio.
Tyfir yma berlysiau meddyginiaethol megis (gyda disgrifiad o beth o’u defnydd):
Carn yr Ebol i wella peswch i froncitis a dolur gwddf
Y Ferfain i leddfu’r ofnau a thyndra nerfol
Y Wermod Wen i drin camdreuliad a meigryn
Sebonllys gwreiddiau yn cynhyrchu rhywfaint o drochion sebon mewn dŵr.
Tafod y fuwch adfywiwr poblogaidd a ddefnyddir mewn diodydd ac i gynyddu cyflenwad llefrith mewn mamau sy’n bwydo o’r fron.
Cryfardwf neu’r Cwmffri trwyth ar gyfer broncitis ac mewn powltris ar gyfer clwyfau, cleisiau ac ecsema.
Erwain mewn te o’r blodau yn gostwng twymyn a’i ddefnyddio i drin asidedd stumog, ffliw a chricmalau.
Camri i drin anhwylderau nerfau,
Oregano tonic yn gymorth i dreulio bwyd ac yn ffisig i godi peswch.
Llysiau Cadwgan fel tawelydd ysgafn
Marchalan i drin anhwylder y frest
Y Wermod Lwyd fel gwrthseptig ac i reoli’r mislif.
Gwelir hefyd yma yn yr ardd berlysiau cryf eu hoglau, neu ddefnyddiol ar gyfer lliwio ffabrigau megis:
Mintys
Saets fel olew persawr, ac i lanhau dannedd
Lafant fel rins wrthseptig
Rhosmari fel rins i’r gwallt
Myrtwydden yn bersawr ‘eau d’onge’
Ysgawen i liwio ffabrigau’n las neu borffor
Melyn Mair i liwio ffabrigau’n oren
Madr i liwio ffabrigau’n goch
Glaslys i liwio ffabrigau’n las
Y Wermod Lwyd i liwio ffabrigau’n felyn
Erwain defnyddir y gwreiddiau i liwio’n ddu a’r blodau i liwio’n felyn
Croen nionyn i liwio’n felyn neu wyrdd.
Wrth gwrs, fel heddiw fe ddefnyddir y perlysiau ar gyfer coginio:
Llarwydden i roi blas ar fwyd a chodi chwant bwyd;
Llysiau’r Angel Pêr rhoi blas ar win, neu ei goginio fel rhiwbob
Llwfach gwella blas bwyd sawrus, coginio’r gwreiddiau fel llysiau,
Ffenigl rhoi blas ar seigiau pysgod,
Oregano rhoi blas ar seigiau cig a salad, hefyd i wneud te a chwrw,
Coriander parlysaswn chwerw’r Pasg,
Persli cael ei ddefnyddio fel sbeis
Chwyn hallt i goginio â seigiau pysgod,
Suran mewn cawl
Griw mewn te meddyginiaethol.
Gwelwch y perlysiau yma’n tyfu yn yr ardd, cymerwch oglau ohonynt.
Hawlfraint © 2023 Amgueddfa Werin Swtan. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd