Amgueddfa Treftadaeth Swtan

COED

Afal Nantgwrtheyrn (Hanes)

Roedd Nantgwrtheyrn ar Benrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru yn gymuned ddiarffordd o chwarelwyr a’u teuluoedd ac nid oedd modd ei chyrraedd ond o’r môr. Yng ngweddillion gardd Rheolwr y Chwarel, daethpwyd o hyd i goeden hen gydag afalau bach brown yn tyfu arni. Roedd blas ffenigl anghyffredin arnynt. Er ei bod dros 100 oed, roedd y goeden yn dal i gynhyrchu afalau o safon dda. Mae hen adeiladau Nantgwrtheyrn yn awr wedi eu hail-adeiladu ac yn cael eu defnyddio fel Canolfan a Threftadaeth yr Iaith Gymraeg.

Afal – Trwyn Mochyn

Afal coginio gwyrdd sy’n cael ei dyfu ar Ynys Môn ers tro byd yw’r Afal Trwyn Mochyn. Cofnodwyd yr afal gyntaf yn y 1600au. Ei siâp unigryw sy’n rhoi’r enw iddo.

Mae’n coginio’n stwnsh, gyda blas cryf ag arogl ysgafn, ac nid oes angen ychwanegu llawer o siwgr iddo. Roedd gwraig y tŷ yn eu defnyddio i wneud tarten afal - yn aml ar blât, a byddent hefyd yn aml yn gwneud pastai afal. Roedd y rhain yn cael eu bwyta gan y gweision fferm tra roeddent yn gweithio ar y tir neu wrth gasglu’r cynhaeaf.

Afal Ynys Enlli (Hanes)

Ynys unig, wyntog yw Ynys Enlli wedi ei lleoli oddi ar frig Pen Llŷn yng Ngogledd Cymru. Roedd yn fan cyfarfod i bererinion am ganrifoedd - yn baganiaid a Christnogion.

Yn 1999, daethpwyd o hyd i hen goeden gnotiog yng nghanol gweddillion Abaty o’r 13 ganrif. Cyfrifir fel y “goeden brinnaf yn y byd” ac mae’n debyg mai dyma’r unig olion o hen berllan y mynaich. Hon yw’r unig fath o afal sy’n deillio o amser y Celtiaid Cymreig. Ar yr ynys, mae’r goeden a’r ffrwyth yn rhydd o unrhyw afiechydon.

Afal Diemwnt (Hanes)

Yn ystod yr 1800au, “Y Diemwnt” oedd y llong gyflymaf ar gefnfor yr Iwerydd. Ar noswaith yr 2il o Ionawr 1825, bu i Gapten Macey gamfarnu mordaith ei long i mewn i Lerpwl, ac fe’i drylliwyd ar Sarn Padrig, craig o dan y môr ym Mae Ceredigion. Golchwyd y llwyth o afalau gorau i’r lan.

Bu planhigion ifanc o’r ffrwyth yn sylfaen gardd enwog yn Nyffryn Ardudwy, sef “Gardd Diemwnt”. Yr oedd afalau diemwnt yn hynod o boblogaidd ym marchnad Y Bermo yn yr 1850au.

Yr oedd dau ddyn yn dychwelyd gyda’u ffortiwn o America. Boddwyd un gan suddo i waelod y môr dan bwysau ei aur. Taflodd y llall ei fag o aur i’r môr, ac fe’i hachubwyd. Bu farw yn dlotyn yng Nghaernarfon. Dywedir bod modd darganfod darnau aur “America” hyd heddiw ar y traeth cyfagos.

Afal Ynys Enlli

Afal Ynys Enlli

Afal Trwyn Mochyn

Afal Trwyn Mochyn

Afal Nant Gwrtheyrn

Afal Nant Gwrtheyrn

Afal Diamond

Afal Diamond

Cysylltwch â ni

Ebost: ymholiadau@swtan.cymru

Facebook Twitter

Hawlfraint © 2023 Amgueddfa Werin Swtan. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd