Adnabyddir ardal gogledd orllewin Môn fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac yma lleolir pentreflan Porth Swtan.
Yma welwch traeth baner las gyda tywod, pyllau creigiog llawn bywyd y môr a chlogwyni cysgodol tywodfaen.
Lleolir y pentreflan ar lwybr arfordirol Môn, gyda golygfeydd hyfryd dros Fôr Iwerddon.
Mae Maes Parcio, i geir, ar gael yn agos i’r bwthyn, lle codir tal am gyfnod gan Gyngor Môn. # Yma lleolir toiledau cyhoeddus di-dal.
Adnabyddir Porth Swtan fel lleoliad i fwyta bwyd da, gyda’r bwyty Lobster Pot a chaffi’r Wavecrest yn agos i’r traeth.
Ceir llawer o fannau i aros gan gynnwys gwestai bach, meysydd carafannau a champio yn ogystal â thafarn.
Yn lleol gwelir caeau yn llawn gwartheg a defaid.
#Nid yw Cyfeillion Swtan yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am dolenni tu allan i’n gwefan.
Hawlfraint © 2023 Amgueddfa Werin Swtan. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd