Amgueddfa Treftadaeth Swtan

ADFERIAD Y BWTHYN

Fel y bwthyn tô gwellt olaf ym Môn, fe ystyriwyd ers tro byd fod Swtan yn adeilad o ddiddordeb hanesyddol ac felly yn deilwng o’i adnewyddu. Fe gyflawnodd y broses o adnewyddu Swtan nifer o amcanion:

  • Fe ddarparwyd cyfleoedd i bobl di-waith lleol ddysgu sgiliau newydd allai yn y diwedd arwain at hunangyflogaeth
  • Fe fyddai creu lle o ddiddordeb hanesyddol i bobl leol, twristiaid ac ysgolion ymweld âg ef at ddibenion addysgol.
  • Fe fyddai’n cynnig adnodd i grefftwyr ac adeiladwyr gael dysgu am dechnegau adeiladu traddodiadol – un o egwyddorion sylfaenol y gwaith adnewyddu oedd y dylid defnyddio deunyddiau sy’n briodol i gyfnod y tŷ.

Nawdd

Fe ariannwyd y gwaith adferiad Swtan gan nawdd lleol a’r Undeb Ewropeaidd drwy Menter Môn.

Gwneud y waliau’n ddiogel, cofnodi’r hyn oedd yno, Paratoi ar gyfer y gwaith adeiladu

Ar ddechrau’r prosiect adnewyddu ym 1998 roedd adeiladau adfeiliedig Swtan yn safle archeolegol. Cyn y gellid cofnodi un rhywbeth, fe fu raid tynnu unrhyw gerrig ansad a’u gwneud yn ddiogel, a mynd ag unrhyw sbwriel oddi ar y safle. Fe’i cofnodwyd yn ofalus wedyn gan y tîm oedd yn gweithio gyda’r archeolegydd y safle. Fe gafodd cerrig a symudwyd yn ystod y broses neu’r llall eu rhifo a’u storio’n drefnus er mwyn eu defnyddio yn y gwaith adeiladu.

Ailgodi’r Waliau

Fe ailgodwyd y waliau yn ôl mesuriadau a math y rhai oedd dal yn sefyll ar y safle ar ddechrau’r prosiect. Fe gafodd cerrig mawr (y rheini oedd fwy na 0.5medr o faint) oedd wedi cael eu symud, eu rhoi yn ôl yn eu llefydd gwreiddiol. Fe ddefnyddiwyd technegau traddodiadol i glymu’r waliau - fe osodwyd y cerrig oedd heb eu trin mewn haenau garw, wedi’u gosod a’u clymu mewn cymysgedd o farl. Fe wnaed y cymysgedd hwn trwy gymysgu marl (sef clai gwaddodol llyfn) o’r caeau o amgylch Swtan gyda gwellt. Fe gafodd yr uniadau rhwng bob carreg eu pwyntio gyda morter calch. Fe roddwyd sawl haen o wyngalch ar y waliau.

Gwaith Coed

Fe geir yn Swtan drawst croes traddodiadol a wnaed o lwyfen ag iddo uniadau wedi’u pegio. Fe allwch weld y trawst y tu mewn i’r bwthyn. Mae llafnau’r trawst yn croesi yn y grib ac mae’r trawst yn cynnal polyn crib a dwy dulath ar bob tu iddo. Ar adeg adeiladu Swtan, broc môr a ddefnyddid fel y prif goed adeiladu. Ar gyfer y gwaith adeiladu, fe gafwyd coed o faint, a siâp addas o stad leol.

Fe gafodd distiau, a wnaed o bolion oedd heb eu trin neu goed ifanc cyfan eu pegio i’r tulathau gyda phegiau pren, ac fe blethwyd coed ifanc trwyddynt i gynnal yr eithin a geir o dan wellt y to.

Mae drysau Swtan yn amrywio o ran eu safon a’u hadeiladwaith yn ôl eu lleoliad yn yr adeilad. Fe wnaed pob un ohonynt o fyrddau llydan, trwchus a gafwyd yn lleol. Mae drysau tebyg i’w gweld mewn llawer o fythynnod ledled Môn. Broc môr, yn fwy na thebyg oedd y deunyddiau gwreiddiol.

Y Tô Gwellt

Mae’r tô gwellt yn cael ei gynnal gan bolion sydd heb eu trin neu goed ifanc cyfan, sydd wedi’i phegio’n agos at ei gilydd ar draws y tulathau. Fe blethwyd polion eraill trwy’r rhain i greu bangorwaith garw. Mae trwch 100 - 200 milimedr o eithin yn gorchuddio’r bangorwaith o dan y gwellt gwenith sy’n cael ei ddal yn ei le gan begiau, rhwydi a rhaffau.

Y Tu Mewn

Ar gychwyn y gwaith adnewyddu, gyda’r adeilad yn adfail nid oedd fawr ddim tystiolaeth o du mewn yr adeilad. Fodd bynnag, mae’r lloriau, hefo’u platiau dur, a ddaeth o long ddrychiad lleol yn ôl y sôn yr un fath ag y’u cafwyd yn gyntaf. Fe allwch weld weddillion hoelion, oedd yn arfer dal linoliwm yn ei le yn y brif ystafell.

Er diogelwch y cyhoedd fe roddwyd lintel newydd uwchben yr aelwyd. Mae’r hen goedyn dal i fod y tu allan i’r adeilad. Fe osodwyd popty haearn, a gafwyd yn lleol, yn lle’r un oedd wedi’i ddifrodi’n ddrwg. Yn ystod y gwaith o gofnodi safle at ddibenion archeolegol fe gloddiwyd tegell haearn a geir ar y popty oddi tan tua 40cm o rwbel .

Bu pobl leol yn hael iawn drwy fenthyca neu roi arteffactau i’w harddangos y tu mewn i Swtan, sy’n portreadu bywyd ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Cysylltwch â ni

Ebost: ymholiadau@swtan.cymru

Facebook Twitter

Hawlfraint © 2023 Amgueddfa Werin Swtan. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd